Click here for further information for Rhondda Cynon Taf service users 

Real Living Wage for Social Care Workers: Commonly asked questions, for eligible Personal Assistants and their Employers

 

One of the key pledges in the Welsh Government’s Programme for Government is to pay social care workers in Wales the Real Living Wage (RLW). £43.2m of funding is being made available to implement the Real Living Wage commitment from April 2022.

Implementation continues and our ambition remains that all eligible workers should receive the uplift by the end of June.

We have received queries from workers and employers regarding the RLW uplift and felt it may be helpful to share with you answers to some of the most commonly asked questions. We hope this will help ensuring the funding reaches those it was intended to support, and in any conversations you have with your employer or employee. A similar message will be sent directly to social care providers and social care workers.

 

Eligible Personal Assistants with questions about the RLW commitment should speak to their employer. If you are a member of a trade union, you may also find it helpful to raise any queries with your local representative.

Recipients of Direct Payments employing Personal Assistants should contact their local authority if they have questions.

For further information about this communication, please contact: [email protected]

 

 Cyflog Byw Gwirioneddol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol: Cwestiynau cyffredin, ar gyfer Cynorthwywyr Personol cymwys a’u Cyflogwyr

 

Un o brif addunedau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yw talu Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyllid gwerth £43.2m ar gael i weithredu’r ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol o fis Ebrill 2022 ymlaen.

Mae’r gwaith o’i weithredu’n parhau, a’n huchelgais o hyd yw y dylai pob gweithiwr cymwys dderbyn y cynnydd erbyn diwedd mis Mehefin.

Rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan weithwyr a chyflogwyr am y cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol, ac felly teimlwyd y byddai’n ddefnyddiol rhannu’r atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Gobeithio y bydd hyn yn eich helpu chi i sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y rheini y bwriadwyd iddo eu cefnogi, a’ch helpu gydag unrhyw drafodaethau a gewch gyda’ch cyflogwr neu weithiwr. Anfonir neges debyg yn uniongyrchol at ddarparwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

Dylai Cynorthwywyr Personol cymwys sydd â chwestiynau am yr ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol siarad â’u cyflogwr. Os ydych yn aelod o undeb lafur, efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi godi unrhyw gwestiynau gyda’ch cynrychiolydd lleol.

Dylai’r rheini sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol sy’n cyflogi Cynorthwywyr Personol gysylltu â’u hawdurdod lleol os oes ganddynt unrhyw gwestiynau,

I gael rhagor o wybodaeth am yr ohebiaeth hon, cysylltwch â: [email protected]